- Rhaid i’r cystadleuwyr yn y gwahanol adrannau lenwi’r ffurflen yn y Rhestr Testunau a’i hanfon at yr Ysgrifennydd erbyn Hydref 1, 2010. Ni dderbynnir enwau ar ôl y dyddiad yma, ac ni dderbynnir chwaith ffurflenni wedi eu llenwi yn anghyflawn.
- Rhaid i’r cyfansoddiadau fod yn llaw yr Ysgrifennydd erbyn Hydref 1, 2010, a rhaid anfon gyda phob cyfansoddiad amlen dan sêl gyda’r manylion canlynol – Oddi mewn, rhif a theitl y gystadleuaeth, enw’r Adran, ffug-enw, yn llawn, a chyfeiriad yr ymgeisydd. Tu allan, Rhif y Gystadleuaeth a ffug-enw’r ymgeisydd.
- Rhaid i’r ymgeiswyr ym mhob cystadleuaeth fod yn yr oed priodol ar ddydd yr Ŵyl.
- Lle bo teitl cystadleuaeth yn cynnwys y geiriau ‘oedran cynradd’, golyga hynny bod yn rhaid i bob ymgeisydd yn y gystadleuaeth honno fod yn ddisgybl Ysgol Gynradd ar ddydd yr Ŵyl.
- Lle bo teitl cystadleuaeth yn cynnwys y geiriau ‘oedran uwchradd’, golyga hynny bod yn rhaid i bob ymgeisydd yn y gystadleuaeth honno fod yn ddisgybl blwyddyn 7 – hyd at 19 oed.
- Rhaid anfon copïau o’r geiriau/trefniant/cainc – lle bo hunan-ddewisiad at yr Ysgrifennydd erbyn Hydref 1, 2010.
- Rhaid defnyddio Telynorion swyddogol yr Ŵyl yn yr Adran Cerdd Dant. Rhaid i’r partïon a’r corau (11, 12) ganu i gyfeiliant dwy delyn swyddogol y gystadleuaeth. Yn yr adrannau Llefaru a Dawnsio Gwerin gall y cystadleuwyr ddefnyddio eu Telynorion eu hunain.
- Rhaid defnyddio’r alawon a’r trefniant o’r llyfrau a nodir.
- Ni chaniateir i unigolyn ganu gyda mwy nag un parti neu gôr yn yr un gystadleuaeth.
- Bydd dyfarniad y beirniad yn derfynol ym mhob achos. Os nad yw’r beirniad o’r farn fod teilyngdod, atelir y wobr neu ran ohoni. Bydd hawl gan y beirniad i ad-drefnu‘r wobr yn ôl teilyngdod.
- Os bydd angen Rhagbrofion ddydd yr Ŵyl, anfonir manylion amdanynt at y cystadleuwyr mewn llawn bryd. DYLID AMGÁU AMLEN MAINT A4 A STAMP ARNI GYDA’R FFURFLEN GYSTADLU AR GYFER HYN.
- Fe geidw Cymdeithas Cerdd Dant Cymru a Phwyllgor Lleol yr Ŵyl mewn ymgynghoriad â’i gilydd hawl i gwtogi’r Ŵyl neu ei gohirio; ei ddiddymu os bernir hynny’n angenrheidiol oherwydd amgylchiadau anorfod tu hwnt i reolaeth y Gymdeithas neu’r Pwyllgor Lleol.