PWYSIG
Rhaid i enwau cystadleuwyr fod yn llaw Ysgrifennydd yr Ŵyl erbyn dydd Iau, Hydref 1, 2010.
Ni dderbynnir unrhyw enw ar ôl y dyddiad hwnnw.
***Cliciwch yma i lawrlwytho’r Ffurflen Cystadlaethau Llwyfan***
DARLLEDU O’R ŴYL
Ceidw Cymdeithas Cerdd Dant bob hawl ar dynnu lluniau, ffilmio, recordio neu ddarlledu unrhyw ran o weithrediadau’r Ŵyl, a hefyd hawl i ddarlledu, argraffu neu recordio detholiadau o weithiau llenyddol neu gerddorol a wobrwyir mewn cystadleuaeth.
Bydd S4C a Radio Cymru yn darlledu o’r Ŵyl. Gall y bydd ymchwilwyr teledu yn dod i gysylltiad â rhai cystadleuwyr cyn yr Ŵyl er mwyn sicrhau gwybodaeth ar gyfer y telediad.
GEIRIAU
Os bydd unrhyw anhawster ynglŷn â chopiau o eiriau yn gysylltiedig â’r cystadlaethau, anfoner at Ysgrifennydd yr Ŵyl, gan amgáu amlen a stamp.
COSTAU TEITHIO
Gellir hawlio cymorth tuag at deithio i’r rhai sy’n cystadlu yng nhystadlaethau rhif 2, 5, 11, 12, 18, 19, 24, 25. 26, 27, 29, 30 a 31.
50 – 99 milltir £100; 100 – 149 milltir £200; dros 150 milltir £350.
Yn ychwanegol i’r uchod, fe ystyrir ceisiadau am gymorth tuag at gostau teithio gan sefydliadau addysgol sy’n cystadlu yng nghystadlaethau’r partïon a’r corau agored.