Canu Gwerin

Beirniaid: Nia Tudur, Einir Wyn Williams, a Dafydd Idris Edwards

Dalier sylw: Cystadlaethau 20 i 27 i’w canu’n ddigyfeiliant

20.  Unawd Oedran Cynradd:

Bachgen Bach o Dincer (Copi ar gael gan yr Ysgrifennydd)

Gwobrau: 1. £40 a Thlws yr Ŵyl; 2. £25; 3. £15.

21.  Unawd dan 16 oed:

Cân Penillion (Cân y Werin, tr. D.E.Parry Williams – Cwmni Cyhoeddi Gwynn)

Gwobrau: 1. £50 a Thlws yr Ŵyl; 2. £30; 3. £20.

22.  Unawd dros 16 a than 21 oed:

Un ai: Cob Malltraeth (Canu’r Cymry I – Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru)

neu: Pobl Drws Nesaf (Copi ar gael gan yr Ysgrifennydd)

Gwobrau:  1. £60 a Thlws yr Ŵyl; 2. £40; 3. £25.

23. Unawd dros 21 oed:

Unrhyw Gân Werin Gymraeg

Gwobrau: 1.£80 a Thlws yr Ŵyl ; 2.£60; 3. £40

24. Parti Oedran Cynradd (hyd at 12 mewn nifer):

Cân Crwtyn y Gwartheg (Cân y Werin, tr. D.E.Parry Williams – Cwmni Cyhoeddi Gwynn)

Gwobrau: 1. £80 a Thlws yr Ŵyl ynghyd â Thlws Ysgol Llanddoged i’w ddal am flwyddyn; 2. £60; 3. £40.

25. Parti Oedran Uwchradd (hyd at 20 mewn nifer):

Yng Nghanol Gwlad Judea Dlos (Hen Garolau Cymru – Cwmni Cyhoeddi Gwynn).

Trefniant TTBB yn y llyfr, trefniant SSA neu SAB gan yr Ysgrifennydd

Gwobrau: 1. £100 a Thlws yr Ŵyl ynghyd â Chwpan Cyngor Cymuned Rhosllannerchrugog i’w ddal am flwyddyn; 2. £75; 3. £50.

26. Parti Agored (hyd at 20 mewn nifer):

Trefniant gwreiddiol, neu wedi ei gyhoeddi, o unrhyw Garol Blygain

Gwobrau: 1. £200 a Thlws yr Ŵyl ynghyd â Thlws Selwyn a Neli Jones i’w ddal am flwyddyn; 2. £150; 3. £100.

27. Côr Agored (dros 20 mewn nifer):

Trefniant gwreiddiol, neu wedi ei gyhoeddi, o unrhyw Gân Werin Gymraeg yn ymwneud â’r môr.

Gwobrau: 1. £400 a Thlws yr Ŵyl ynghyd â Chwpan Parti’r Ffynnon i’w ddal am flwyddyn; 2. £250; 3. £150.

28.  Grŵp Offerynnol neu Offerynnol a Lleisiol (hyd at 7 mewn nifer):

Trefniant heb fod yn hwy na 7 munud o alawon a/neu caneuon gwerin traddodiadol Cymreig ar gyfer cyfuniad o offerynnau acwstig. Rhoddir pwyslais ar natur draddodiadol y perfformiad.

Gwobrau: 1. £120 a Thlws yr Ŵyl; 2. £90; 3. £60.